R. T. Evans
(A talk on the Cardiff National Eisteddfod)
Y mae pob argoel y bydd Eisteddfod
Genedlaethol Caerdydd eleni yn eisteddfod fyth gofiadwy. Mae'r sefydliad wedi tyfu'n enfawr gyda phob blwyddyn, wedi'r Rhyfel yn enwedig, ond hon yn 61 pob tebyg fydd yr eisteddfod fwyaf a welwyd erioed, ag eithrio Ffair y Byd yn Chicago efallai. Bu'r trefnwyr wrthi'n ddygn ers dwy flynedd. Adeiladwyd pafiliwn ar gynllun newydd a mwy yng Ngerddi Sophia, un o'r parciau tlvsaf sydd yng Nghaerdydd, a gellir m'eddwl y bydd ei angen hefyd, oherwydd mae mwy o gystadleuwyr nag erioed wedi cynnig, ac, os yw hynny'n arwydd deg, gellir disgwyl miloedd lawer o ymwelwyr. Wrth gwrs mae Caerdydd fel canolfan yn hwylus iawn, gan fod mwy na hariner poblogaeth Cymru'n byw o fewn hanner can milltir i'r ddinas. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ddwywaith o'r blaen, yn 1883 ac yn 1899.
Dro'n 61 darlledodd
Sir Thomas Hughes a Major Edgar Jones eu hatgofion am y ddwy Eisteddfod hon, a diau y bydd rhai a fu yng Nghaerdydd yr adeg honno yn ymweld a'r Eisteddfod yn y ddinas v tro hwn hefyd. Cant weld bod yr vsbryd Cymreig mor fyw yma ag erioed.
Dyma'r ail sgwrs a ddarlledwyd ar yr eisteddfod eleni. Bu R. Pierce Jones yn bwrw golwg ar rai o'r rhagolygon dro'n 61, a heno gan fod vr wyl gymaint yn nes atom bellach, caiff R. T. Evans gyfle i'w mesur unwaith etc