('If Plato lived again')
D. James Jones
Brodor o Bontardulais ydyw D. James Jones, wedi derbyn ei ddysg yno, yn ysgol Ganolradd Gowerton, yng Nghaerdydd ac yng Nghaergrawnt. Bu yn gaplan yn y fyddin adeg y Rhyfel Mawr ac yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynmawr ac yn Abertawe. Mae'n athro mewn Athroniaeth a Seicoleg yng Ngholeg Harlech oddi ar 1928 ac yn Is-Warden y Coleg.
Yr hyn a wneir yn y ddwy sgwrs Gymraeg ydyw ceisio crynhoi ynghyd brif bwyntiau'r sgyrsiau Saesneg ar 'Petai Platon yn byw heddiw'. Rhoddir sylw i rai o syniadau Canolog yr athronydd, a gwneir ymgais i ddimad rhyw gymaint o'u perthynas ag amgylchiadau heddiw.