Rhaglen wedi ei threfnu gan T. H. Evans gyda chydweithrediad J. W. Jones, Victor Loot, a Catherine M. Davies
(The Romance of a Linguistic Borderland in Pembrokeshire)
Ers canrifoedd bellach bu clawdd terfyn yn gwahanu'r Cymry a'r Saeson yn Sir Benfro ac yn galluogi'r ddwy genedl i ddiogelu a datblygu eu hiaith a'u harferion arbennig. Ar waethaf dyfod o gyfleusterau teithio i'r sir nid yw'r Clawdd wedi ildio cam. Ceisir mynd ar daith ar ei hyd heno.