O Elim, Eglwys y Methodistiaid,
Porth Dinorwig
(A Religious Service in Welsh, from Elim Methodist Church, Port Dinorwic)
Trefn y Gwasanaeth
Gweddi Fer
Emyn 36, Ein Harglwydd ni clodforweh
(Ton, Hosanna)
Darllen rhan o'r
Ysgrythur Emyn 63, Fy enaid, at dy Dduw (Ton,
Maelor)
Gweddi Emyn 716, Duw a Thad yr holl genhedloedd (Ton, Gnoll Avenue)
Pregeth gan y Parch. J. Gwyn JONES Emyn 612, Tyred, Iesu, i'r anialwch
(Ton, Blaenwern)
Y Fendith Arweinydd y Gan, J. E. Williams
Organydd, E. Chambers Jones
Yr Emynau a'r Tonau o Lyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd
Gof o'r enw Ellis Thomas oedd sylfaenydd yr achos Wesleaidd yn y Felinheli, ac yn ei dy ef, Yr Efail , Aber Pwll , y dechreuodd yr achos. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1833. Y mae'r Elim presennol yn drydydd capel, ac adeiladwyd ef am gost o £1,805 yn 1876, mewn lie mwy cyfleus yng nghanol pentref cynhyddol Porth Dinorwig. Adnewyddwyd ef yn 1900, a chafwyd Organ hardd yn 1908. Bu amryw o ddynion galluog a da yn gwasanaethu'r achos, a deil yr eglwys yn lewyrchus o hyd. Brodor o Ystumtuen, Sir Aberteifi, ydyw'r gweinidog presenno!. Bu am bum mlynedd yn lowr yn y De cyn ymgeisio am y weinidogaeth. Y mae'n wr graddedig o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn 1932. Y mae'n hoff o lenydda, ac efe sydd eleni yn ysgrifennu ar y Salmau i'r ' Cyfarwyddwr'.