Wrth i Gymru baratoi i wynebu’r Eidal yr wythnos nesa ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, hanes un teulu sydd â'u gwreiddiau yn ardal Calabria yn yr Eidal - Aldo Sauro a'i ferched, sy'n ffermio ym Mynydd Penbre.
Hefyd, ugain mlynedd ers Clwy'r Traed a'r Genau, Gareth Wyn Jones, Bob Parry a'r milfeddyg David Thomas sy'n hel atgofion am y cyfnod gofidus.
Richard Davies yn crynhoi'r diweddaraf yn y diwydiant llaeth, ac arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi sy'n adolygu'r straeon amaethyddol yn y wasg. Show less