Draw ym Mhen Llŷn, mae Alun Elidyr yn ymweld â rhai o'r bobl hynny sy'n gweithio ar y môr neu'r glannau.
Gan ddechrau ym Mhorth Colmon, mae'n clywed gan y pysgotwr Sion Williams beth yw cyflwr y môr a'r pysgod wedi'r gaeaf a haf cynnar poeth. Wrth i'r cewyll gael eu tynnu o waelod y môr, mae Alun yn disgrifio'r broses ac yn rhyfeddu at y ddalfa. Mae hefyd yn gofyn i Sion pam bod unrhyw un yn dewis treulio oriau ar ei ben ei hun ar y môr oer a stormus.
Ym Mhwllheli, mae Greta Hughes yn trafod cydymffurfiaeth gydag Alun, a'r ddau yn cymharu rheoleiddio'r môr â rheoleiddio amaeth.
I Aberdaron wedyn, a sgwrs gyda Natalie Harrison. Mae hi'n sôn am fod â'i bwyty ei hun, sut mae'r pentref wedi newid, a hanes y pâl yn lleol. Show less