Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,675 playable programmes from the BBC

Beti a'i Phobol

Adam Jones

Duration: 51 o funudau

First broadcast: on BBC Radio Cymru 2Latest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for over a year

Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George.

Tu hwnt i’r ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd.
Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae’n siarad yr iaith, ynghyd â Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban.
“Dw i’n meddwl fy mod i’n berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i’n licio dysgu ieithoedd. Dw i’n gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol".

Bu’n gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar ôl graddio, gyda’r Mentrau Iaith ac yna’r Coleg Cymraeg, ond roedd rhywbeth ar goll, ac roedd yn awchu am fod allan ar y tir neu yn yr ardd.
Ar ôl prynu ei gartref cyntaf gyda Sara, sy’n wraig iddo nawr, dechreuodd ailwampio’r ardd, a rhannu ei waith ar Instagram. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More