Mae rhifyn hawl i holi fis Ionawr yn dod o’r stiwdio yng Nghaerdydd – ac yn cadw cwmni i Bethan Rhys Roberts mae’r Gweinidog Addysg - ac un o ddau ymgeisydd i fod yn brif weinidog nesa Cymru - Jeremy Miles. Yr ymgyrchydd a chyn aelod o'r senedd gyda Phlaid Cymru Bethan Sayed. Dirprwy Gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig Tomos Dafydd a'r gyfreithwraig a sylfaenydd rhwydwaith Superwoman - Bethan Darwin.
Os am ofyn cwestiwn yn y dyfodol neu cysylltu a’r rhaglen, yr e bost yw hawliholi@bbc.co.uk Show less