Mair, y Fam gariadus, yw un o brif ddelweddau Stori’r Geni, ac i nodi’r ŵyl eleni, dyma raglen sy'n plethu hanes y gân yn ogystal â straeon personol rhai o famau heddiw. Daw cefndir y gân Nadoligaidd yn glir gan y ddau wnaeth ysgrifennu a chyfansoddi’r gân, Cefin Roberts a Delwyn Siôn, ac ymhlith yr hanesion gan sawl mam gariadus arall cawn glywed gan fam i fab sydd ar faes y gad yn Wcráin.
Fe wnaeth Ffion Emyr ei chanu am y tro cyntaf pam oedd hi o gwmpas 11 mlwydd oed gyda Chôr Glanaethwy – ac ers hynny mae hi’n gâ an sydd yn cael ei chwarae yn eu cartref yn Llanystumdwy o gwmpas y Nadolig. “ Mae’r gân Alaw Mair yn hudolus” medde Ffion, “ hon yw fy hoff gan Nadolig, ac ‘roedd cael recordio fersiwn ohoni gyda Mam yn sbesial”.
Mae Ffion a'i mam,Marian yn canu fersiwn newydd o'r gân, wedi ei chynhyrchu wedi'i cynhyrchu gan Rich Roberts (Stiwdio Ferlas) a threfniant gan Ifan Davies. Show less