Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,591 playable programmes from the BBC

Newid Hinsawdd a Fi

Gogledd Ddwyrain

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for 12 months

Leisa Gwenllian yn sgwrsio â phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Yn y rhaglen yma mae hi'n ymweld â phrosiect Y Bws Benthyg yn yr Wyddgrug sef lyfrgell symudol o eitemau i'w llogi yn hytrach na'u prynu. Hon yw'r 1af o'i bath yng Nghymru ac mae'r Bws wedi bod ar y lôn ers 10 mis bellach a'r bwriad ydi lleihau gwastraff.

Mae hi hefyd yn ymweld â Gwinllan Y Dyffryn ger Dinbych sydd wedi manteisio ar newid hinsawdd i gynhyrchu gwin yn Ddyffryn Clwyd. Yn ôl Gwen, maen nhw wedi paratoi ar gyfer gweld mwy o dywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd dros y blynyddoedd nesaf, ac yn gallu tystio i’r newidiadau sydd wedi digwydd yn barod dros y 10 mlynedd maen nhw wedi perchen ar dir y winllan.

Mae hi hefyd yn siarad gydag Erin Owain, merch o Ruthun sydd yn gweithio fel Dadansoddwr Risg Hinsawdd gyda chwmnïau mawr y byd. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More