Mae’r awdur Jane Blank sydd wedi dysgu Cymraeg yn parhau gyda’i hymchwiliad i hanes yr iaith yn ei theulu.
Mae’n dechrau gyda pherthynas arbennig adewodd dlodi’r teulu a chaledi’r diwydiant plwm yng ngogledd Ngheredigion a dod yn brifathro Coleg yr Iesu yn Rhydychen.
Clywn am fagwraeth Jane yn Sheffield, lle collodd Jane y cyfle i siarad Cymraeg fel mamiaith a’i phenderfyniad i adfer yr iaith i’r genhedlaeth nesaf.
Ewn gyda hi a’r teulu i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn. Yn y gorffennol roedd Jane ar gyrion y diwylliant Cymraeg ond erbyn hyn mae hi a’r teulu cyfan yn gallu mwynhau’r bwrlwm ar y Maes yn ei lawnder.
Wrth gloi, bydd Jane yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn holi a lwyddodd i ddiogelu’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf? Show less