Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,773 playable programmes from the BBC

Ffion Dafis

Arddangosfa yr arlunydd Iwan Gwyn Parry

Duration: 1 awr, 58 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for years

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Ymweld â chartref yr arlunydd Iwan Gwyn Parry sydd yn paratoi tuag at arddangosfa newydd o’i waith yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst; a sgwrs efo Manon Steffan Ros wrth i Theatr Genedlaethol Cymru baratoi i lwyfannu ei haddasiad o ddrama Eugène Ionesco, 'Rhinoseros'.

Y cerddor Rhiannon Lewis sydd wedi bod yn gweld opera newydd Gareth Glyn, ‘Peth Bach 'Di Cawr’; ac Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydol Rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n trafod pwysigrwydd digwyddiadau celfyddydol ymylol Cymreig mewn digwyddiadau fel Pencampwriaeth Rygbi’r Byd ar y funud.

Hefyd, yr artist, actores a’r cerddor Bethan Mai sy'n sgwrsio efo Mari Grug am fod yn rhan o’r bartneriaeth gerddorol boblogaidd ‘Rogue Jones’ ac newydd ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 nos Fawrth diwethaf; ac â hithau'n Wythnos Dathlu Dysgwyr Cymraeg ar Radio Cymru, sgwrs gyda’r artist Deidre McKenna o’r Iwerddon am ei gwaith a’i thaith yn dysgu’r Gymraeg. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More