Ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd mae Dewi Llwyd yn cael cwmni Dr Gareth Lloyd Jones a chawn ddysgu mwy am ei swyddogaeth yn ystod gêm ryngwladol. Beth yw’r profion sydd angen eu gwneud ar chwaraewyr, pa gyfyngiadau sydd arno a beth sy’n digwydd pan nad yw’r chwaraewyr yn awyddus i adael y cae?
Mae cyfergydion yn ystod y gêm yn bwnc pwysig i’r tad a mab sydd wedi chwarae i Gymru, Brynmor a Lloyd Williams. Yn ogystal mae Dewi’n cael cwmni Dr Seren Lois Evans sydd wedi gwneud gwaith ymchwil i anafiadau pen chwaraewyr rygbi, Dr Melda Lois Griffiths sydd wedi rhoi’r gorau i'r gamp oherwydd anaf i'r pen a chawn glywed am yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn y gem amatur yng Nghlwb Rygbi Llangefni. Show less