Mae Gethin Evans wedi dechrau gwneud stand yp. Mae popeth yn mynd yn dda . . . tan i’r nerfau gicio mewn.
Ychydig ddyddiau cyn gig mae o’n methu cysgu, yn methu bwyta, ac yn teimlo fel taflu fyny. Pam felly mae o’n rhoi ei hun drwy’r ffasiwn artaith? Ydi comedi yn gwneud Gethin yn sâl?
Mae o’n sgwrsio gyda 3 comedïwr arall am iechyd meddwl, a'r effaith mae hynny yn ei gael ar eu comedi. Caryl Burke o Porthmadog, sy'n gigio ers tua blwyddyn a hanner, Steffan Evans o Eglwyswrw sydd ar anterth ei yrfa a'r actor a'r digrifwr poblogaidd, Eilir Jones, sydd wedi mwynhau blynyddoedd o lwyddiant fel comedïwr. Show less