Iwan Griffiths a’i westeion yn trin a thrafod digwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.
Steffan Donnelly ac Elgan Rhys, dau o feirniaid cystadleuaeth Y Fedal Ddrama, sydd yn ymuno gydag Iwan i drafod y dramâu a ddaeth i law eleni.
Alwyn Humphreys a John Ieuan Jones sydd yn trafod uchafbwyntiau cerddorol y dydd gan gynnwys Gwobr Goffa T. Osborne Roberts.
Mae y cerddor Ilid Anne Jones yn galw heibio i sgwrsio am Leilia Megane, gwraig T. Osborne Roberts, ac mae Dyfrig Davies yn cadw golwg ar uchafbwyntiau llefaru y dydd.
Iaith a dywediadau Pen Llŷn sydd yn cael sylw Mei Mac a Margiad Roberts, ac mae Ffion Dafis yn sgwrsio gyda’r dramodydd Bethan Marlow.
 hithau’n noson Gig y Pafiliwn, mae’r cerddor Owain Gruffudd Roberts yn trafod ei waith fel cyfarwyddwr cerdd y cynhyrchiad ac arweinydd Cerddorfa y 'Welsh Pops'.
Ac yn cadw golwg ar y straeon newyddion ar y maes mae’r bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen. Show less