Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,419 playable programmes from the BBC

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Tocyn Wythnos

Dydd Mercher

Duration: 1 awr, 58 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for years

Iwan Griffiths a’i westeion yn trin a thrafod digwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Y Fedal Ryddiaith ydy prif gystadleuaeth lenyddol y dydd ac mae’r beirniaid Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas yn trin a thrafod y cynnyrch ddaeth i law eleni wedi'r seremoni.

Sioned Terry sy'n dewis uchafbwyntiau cystadlu cerddorol y dydd, tra bod Esyllt Maelor, Iestyn Tyne a Carys Bryn yn trafod dylanwad y môr a’r mynydd ar waith celfyddydol ardal Llŷn ac Eifionydd.

Ffion Dafis sy'n sgwrsio gyda John Ogwen, Maureen Rhys a Mari Prichard yn ystod lansio e-lyfr ‘Un Nos Ola Leuad’ ar y maes; â hithau yn ddiwrnod cyhoeddi pwy yw Dysgwr y Flwyddyn mae Fiona Collins a Stel Farrar, i’ch dwy yn gyn-enillwyr, yn sgwrsio am eu profiadau nhw fel dysgwyr yn yr ŵyl.

Mae Talwrn y Beirdd yng ngofal Twm Morys a Gruffudd Antur am y tro cyntaf ac mae'r ddau yn galw heibio am sgwrs, tra bod Karen Owen yn cadw golwg ar straeon newyddion y dydd o’r maes. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More