hithau yn ddydd Llun cynta’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd mae Iwan Griffiths yn cael cwmni nifer o westeion yn stiwdio ‘Tocyn Wythnos’ o’r maes ym Moduan.
Prif drafodaeth y rhaglen heno ydy cystadleuaeth Y Goron, ac mae’r tri beirniaid yn ymuno gydag Iwan i drin a thrafod ymhellach, sef Jason Walford Davies, Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds.
Sioned Terry a John Ieuan Jones sydd yn cadw golwg ar brif uchafbwyntiau cerddorol y dydd, gydag Einir Wyn Jones yng ngofal y cystadleuthau canu gwerin a cherdd dant. Mae’r cystadleuthau llefaru yn cael sylw Carwyn John gyda’r brif wobr llefaru, sef cystadleuaeth Llwyd o’r Bryn, yn dathlu 60 oed eleni.
Mae enillydd Gwobr Goffa T H Parry Williams, Geraint Jones, yn galw heibio am sgwrs yn ogystal â’r beirdd Gareth Evans-Jones a Llio Maddocks, a hynny ar ddiwrnod cyhoeddi blodeugerdd LHDTC+ flaengar a chyffrous o’r enw ‘Curiad’ – y cyntaf o’i math yn yr iaith Gymraeg.
Y newyddion celfyddydol diweddaraf ar hyd a lled y maes sydd yn cael sylw Ffion Dafis, tra bod y cerddor Rhiannon Lewis yn adolygu cyngerdd gwerin agoriadol yr ŵyl yng nghwmni ‘Pedair’, nifer o artistiaid gwerin amlwg ardal Llŷn ac Eifionydd, yn ogystal â Chôr Gwerin yr Eisteddfod.
Ac i gloi, mae’r bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen yn cadw golwg bob nos ar y newyddion dyddiol o’r maes. Show less