Mae Elen Wyn yn ymweld ag un o wyliau gwerin mwyaf Cymru, sef Sesiwn Fawr Dolgellau, yn ogystal â dod i adnabod yr awdur o Fôn, Mared Lewis.
Mae Elen hefyd yn trafod celfyddyd 'celf latte', tra bod Ffion Dafis yn sgwrsio gyda'r artist Catrin Williams am ei harddangosfa newydd yng Nghwt Tatws, Tudweiliog, sy'n cyd-fynd gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd.
Ydach chi wedi meddwl beth sydd gwneud cyfeilydd da? Beth yw’r heriau? Beth yw’r apêl . . . mae dwy o'r goreuon yn y maes, Annette Bryn Parri a Kim Lloyd Jones, yn trafod.
Ac mae'r artist, y bardd a'r llenor Sara Wheeler yn galw heibio i drafod yr hyn sydd yn ei hysgogi hi yn gelfyddydol.
CODAU AMSER:
00:06:40 Ffion Dafis
00:17:57 Mared Lewis
00:43:25 Y grefft o gyfeilio
01:03:57 Arddangosfa Catrin Williams
01:25:33 Celf Latte
01:44:45 Sara Wheeler Show less