Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Ffion yn cael cwmni bardd buddugol cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr eleni, sef Tegwen Bruce-Deans a'i chyfrol newydd o farddoniaeth - 'Gwawrio', yn ogystal ag adolygiad o sioe lwyfan 'Jemima', Theatr Arad Goch, a hynny gan y cyflwynydd a'r actores Megan Llŷn.
Gŵyl Serameg Ryngwladol Cymru yn Aberystwyth sydd yn cael sylw Rhiannon Gwyn a Ffion Rhys, tra bod Twm Morys a Gwyneth Glyn yn galw heibio am sgwrs am eu cynhyrchiad yr wythnos nesaf yn Y Galeri, Caernarfon am hanes Myrddin Wyllt.
Mae sylw hefyd i boblogrwdd cyrsiau celf yng Ngholeg Menai, Bangor a Choleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.
CODAU AMSER:-
Tegwen Bruce-Deans - 05.31 - 18.25
Cwrs Celf Coleg Menai - 22.56 - 36.12
Gŵyl Serameg Rhyngwladol - 46.09 - 57.03
Cwrs Celf Coleg Meirion-Dwyfor - 1.03.46 - 1.15.24
'Jemima', Megan Llŷn - 1.25.01 - 1.30.20
Twm Morys a Gwyneth Glyn - 1.38.35 - 1.56.40 Show less