Ffion Dafis a'i gwesteion sy'n trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Sgwrs gydag Emyr Gruffydd, sydd wedi cyfieithu nofel 'Llyfr Glas Nebo' gan Manon Steffan Ros i'r Gatalaneg; ac Elin Haf Gruffydd Jones sy'n ystyried y berthynas rhwng ysgrifennu, cyfieithu ac addasu, a dylanwad amlieithrwydd ar ein llenyddiaeth dwyieithog.
Lily Beau sy'n ymweld â chast cwmni Opera Cenedlaethol Cymru ar drothwy eu cynhyrchiad diweddaraf o opera 'Candide' gan Bernstein; yr actores a'r dramodydd Lowri Palfrey sy'n sgwrsio am ei ffilm fer 'Hêri'; a sgwrs gyda Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Steffan Donnelly, flwyddyn union ers ei benodiad.
Hefyd, mae Ffion yn ymweld â'r cerflunydd Manon Awst yn ei stiwdio newydd yng Nghaernarfon a hithau newydd ennill ysgoloriaeth gan yr 'Henry Moore Foundation'; a'r darlithydd ac awdur Gareth Evans-Jones sy'n sgwrsio am brosiect digidol llenyddol 'Counterpoint'.
CODAU AMSER:
06:27 - Elin Haf Gruffydd Jones ac Emyr Gruffydd
23:54 - Cast Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru
44.43 - Lowri Palfrey a Sharon Morgan
1.04.13 - Steffan Donnelly
1.20.30 - Manon Awst
1.41.02 - Gareth Evans-Jones Show less