Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Llyr Evans, enillydd Ysgoloriaeth Gelf Artist Ifanc yr Urdd yn yr Eisteddfod yn Llanymddyfri yn ddiweddar. Prosiect perfformio mewn neuaddau pentrefi a chanolfannau cymunedol Synfonia Cymru sydd yn cael sylw Mari Grug tra bod Iola Ynyr a Sioned Medi yn galw heibio i sgwrsio am brosiect celfyddydol hynod gyffrous 'Mwy i Mi'.
 hithau'n benwythnos ffeinal cystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd, y cerddor Alwyn Humphreys sydd yn trafod y llais fel offeryn ac yn holi a ydy lleisiau ifanc yn cael eu hyfforddi yn ormodol y dyddiau yma?
Rhys Lloyd Jones sydd yn sgwrsio am rai o bosteri a gwaith celf chwedlonol a wnaed gan Stuart a Lois Neesham o argraffdy Enfys sy'n rhoi cipolwg ar y sîn gerddorol ym Mangor yn y 1970au.
Ac yn trafod crefft yr awdur cysgodol mae Aled Jôb ac Elinor Wyn Reynolds. Show less