Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,773 playable programmes from the BBC

Ffion Dafis

Addasu 'Un Nos Ola' Leuad' yn ddrama radio, adolygiad o 'Imrie' gan Nia Morais, a digwyddiadau dathliadau Cymru-Affrica

Duration: 1 awr, 58 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for years

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Y dramodydd Rhiannon Boyle sy'n rhoi hanes ei haddasiad o nofel Caradog Pritchard, 'Un Nos Ola' Leuad', fel dramâu radio ar gyfer Radio Cymru, ac ar gyfer Radio 4. Adolygiad Cefin Roberts o'r ddrama 'Imrie' gan Nia Morais, cynhyrchiad diweddaraf Theatr y Sherman a Chwmni Frân Wen. Yr awdur Sian Melganell Dafydd gyda'i hegin nofel 'A'r Ddaear ar Ddim', i godi arian ar gyfer dioddefwyr daeargryn Twrci a Syria.

Crynhoi digwyddiadau dathliadau Cymru-Affrica yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod y penwythnos mae Lily Beau, gyda'r artist amryddawn Izzy Rabey yn sgwrsio am y prosiectau celfyddydol sydd ar y gweill. Mae Ffion hefyd yn cael cwmni Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More