Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Heddiw mae Ffion yn cael cwmni Mererid Hopwood â'i hargraffiadau hi o Ŵyl y Gelli wedi iddi gael ei hanrhydeddu gyda'r Fedal Farddoniaeth yno ddiwedd yr wythnos, yn ogystal â Brennig Davies a Gwenllian Ellis - rhai o lenorion preswyl yr ŵyl eleni.
 hithau ar fin perfformio drama newydd sbon mae Ffion yn cael cwmni'r actores amrywddawn Stacey Blythe. Mae Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, yn galw heibio am sgwrs, a'r cerddor Sioned Webb sy'n adolygu cynhyrchiad diweddaraf Opra Cymru, 'Così Fan Tutte'.
Ddiwedd yr wythnos nesaf mae dathliadau Cymru-Affrica yn dechrau yn Neuadd Ogwen, Bethesda, a dau sydd ynghlwm â'r trefnu ydy Cathryn McShane-Kouyaté a Dilwyn Llwyd.
Ac mae'r artist Dylan Huw yn sgwrsio am brosiect newydd cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru, 'Prosiect 40°C', sy'n ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Show less