Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Â hithau yn Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas mae Ffion yn ymweld â Thalacharn yng nghwmni Alun Gibbard a Cerys Matthews ac hefyd yn cael cwmni cast cynhyrchiad newydd 'Cosi Fan Tutte', Opra Cymru.
Mae'r tymor gwyliau celfyddydol yn eu hanterth, a'r wythnos nesaf mae Elin Rhys yn derbyn gwobr arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin am ei chyfraniad i'r byd celfyddydol, ond cyn hynny mae yn taro heibio'r stiwdio am sgwrs, fel yr awdur John Sam Jones cyn iddo yntau ddychwelyd yn ôl i'r Almaen lle mae yn byw bellach, ond mae wedi bod ar ymweliad â Chymru drwy'r wythnos yn hyrwyddo ei waith.
Arddangosfa o waith yr artist Anna Davies sydd yn cael sylw Elen Wyn yn Oriel Ffin-y-Parc, Llanrwst. Ac yna i gloi, mae Ffion yn cael cwmni y cyfarwyddwr theatrig Geinor Styles â hithau newydd ennill gwobr yr wythnos hon fel cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i'r byd perfformio. Show less