Ffion Dafis a'i gwesteion yn trin a thrafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth. Â hithau heddiw'n 'Ddiwrnod Llyfr y Byd' mae Ffion yn cael cwmni Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause yn ogystal â'r nofelwyr rhyngwladol Kris Hughes a Clare Mackintosh. Trafod drama lwyfan ddwyieithog 'Bipolar a Fi' mae'r actorion Ceri Ashe ac Aron Cynan - cyflwr y mae Ceri fel awdur y ddrama yn byw gydag e. Mae'r artist print gweledol o Ddyffryn Ogwen, Rebecca Hardy-Griffiths yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs cyn mynd draw i Lerpwl yn y prynhawn i arddangos a gwerthu ei chynnyrch, tra bod Fflur Dafydd yn trafod yr her o drosglwyddo straeon trosedd i'r sgrîn. Ac yn ogystal â'r trin a'r trafod mae rhaglen Ffion Dafis hefyd yn gartref i glywed rhan o gyngherddau cyfredol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a'r wythnos yma cyfle i glywed trac o gyngerdd y Gerddorfa yn Neuadd Dewi Sant, Nos Iau ddiwethaf, sef 'Y Freuddwyd Americanaidd' gan Charles Ives, Karol Szymanowski a John Adams dan arweinyddiaeth Ryan Bancroft. Show less