Ffion Dafis a'i gwesteion yn trin a thrafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth. Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn sgwrsio gyda'r llyfrwerthwr o'r Bala, Gwyn Sion Ifan sydd ar fin derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru.
Mae Ellis Lloyd Jones a Teifi Rowley yn sgwrsio am gelfyddyd perfformio drag, tra bod Rhys Grail yn trafod ei lyfr diweddar sydd yn cofnodi cerddorion wrth ei gwaith drwy gyfrwng lluniau.
Y grefft o berfformio a chasglu straeon a chwedlau llafar gwrth-hiliol sydd yn cael sylw Alun Gibbard a Mair Tomos Ifans, tra bod Elen Williams, golygydd llyfrau plant yn edrach ymlaen at Ffair Lyfrau Llundain a phresenoldeb y Cymry yno. Show less