Yn saith oed fe adawodd Craig ei gartref er mwyn derbyn addysg mewn ysgol breswyl. Mae'n dal i gofio'r eiliad y gwnaeth sylweddoli am y tro cyntaf na fyddai yn gweld ei fam eto am gyfnod hir.
Ac yntau bellach yn dad ei hun, mae'n ail ymweld â'i blentyndod ac yn ystyried pa effaith cafodd y cyfnod ffurfiannol yma ar weddill ei fywyd.
Mewn sgyrsiau agored fe glywn ei safbwynt am deulu ac addysg, ac am arwyddocâd ei daith yn ôl adref i Gymru. Show less