Elin Rhys sy’n cwrdd â rhai o wyddonwyr Cymru, sy’n ymchwilio heddiw er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory.
Y biolegydd Jake Davies, sy’n sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru.
Mae Llinos Honeybun yn ceisio addasu cyffuriau sydd eisoes ar y farchnad, er mwyn trin cyflwr difrifol sydd yn effeithio ar blant.
Dr Meryn Griffiths, sydd yn gweithio i un o gwmnïau cyffuriau mawr y byd. Mae Meryn yn arwain tîm sydd yn gweithio ar biofarcwyr mewn treialon clinigol, i weld os yw cyffur yn ddiogel ac yn gweithio ar bobol, nid yn y labordy yn unig.
Dr Rhodri Jones sydd yn bennaeth y pelydrau yn CERN.
Ac mae Dr Aled Isaac yn Abertawe yn dangos y peiriannau sydd ganddo fe er mwyn ymchwilio i gwrthfater - un o ddirgelion mawr y bydysawd. Show less