Elin Rhys sy'n cwrdd â rhai o wyddonwyr Cymru sy’n ymchwilio heddiw, er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory.
Mae'r rhaglen yn dechrau ar forfa heli Cwm Ify ar Benrhyn Gŵyr, sydd wedi ei hadfer ar ôl i dwll ymddangos yn y morglawdd. Dr Cai Ladd sydd yn mynd â ni am dro gan drafod pwysigrwydd morfeydd heli i amddiffyn ein harfordir rhag llifogydd, i storio carbon, a gofalu am fyd natur.
Nôl yn y labordy, mae Lois Lewis yn ymchwilio i un protein arbennig yn ein celloedd sydd yn gallu achosi clefyd Altzheimer wrth iddo newid siâp. Mae Lois yn chwilio am gyffur i effeithio ar y protein hwnnw a thrin yr afiechyd.
Efallai mai un o heriau mwyaf ein planed yw sicrhau ynni glân , di-ben-draw, i ddiwallu ein hangen am drydan. Mae proses o'r enw Ymasiad Niwclear yn copïo sut mae’r haul yn cynhyrchu egni, drwy losgi plasma crasboeth mewn adweithydd. Ond dychmygwch y gwres fydd yn yr adweithydd? Mae Dr Llion Evans a'i fyfyriwr PhD Rhidian Lewis ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio ar fodelu deunyddiau all wrthsefyll y gwres fyddai’n cael ei greu yn y broses. Ac yn Llundain mae Dr Catrin Mair Davies yn ymchwilio i'r ffyrdd ymarferol o gysylltu deunyddiau at ei gilydd er mwyn gallu wynebu'r gwres tanbaid, mewn ffwrnes yn ei labordy.
A, tu fewn i'n teclynnau electronig mae lled-ddargludyddion, semi-conductors, sydd yn caniatáu i drydan deithio - yn ein sgriniau bach ar y ffôn, cyfrifiaduron, teledu ac yn y blaen. Er mwyn delio gyda thrydan yr oes newydd werdd, mae angen addasu'r rhain. Mae canolfan newydd o'r enw CISM yn agor ym Mai 2023 ar gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Mae Dr Emrys Evans yn un o'r cemegwyr fydd yno, yn defnyddio ymchwil a wnaeth i sut mae llygaid y Robin Goch yn derbyn neges drydanol o faes magnetig y ddaear er mwyn mudo. Show less