Elin Rhys sy’n cwrdd â rhai o wyddonwyr Cymru sy’n ymchwilio heddiw, er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory.
Dr Iestyn Barr, ymchwilydd mewn rhewlifeg a darlithydd ym Mhrifysgol Manceinion, ac ail ysgrifennodd llyfrau hanes rhewlifoedd yn ystod y cyfnod clo. Fe fapiodd gymoedd yn Antarctica drwy luniau lloeren, gan brofi bod rhewlifoedd bach wedi bodoli yno ers dros 60 miliwn o flynyddoedd yn hytrach na 34 miliwn o flynyddoedd. Mae ei waith ymchwil yn trawsnewid ein dealltwriaeth o hanes rhewlifoedd a'n helpu i ddeall beth fydd dyfodol rhewlifoedd presennol mewn byd sy'n cynhesu.
Dr Helen Miles a Dr Matt Gunn, dau wyddonydd yn Aberystwyth sydd wedi paratoi camera ar gyfer glaniwr Rosalind Franklin - a oedd i fod i godi ar roced o Rwsia ychydig fisoedd yn ôl. Fe fyddai'r glaniwr a’r camera hanner ffordd i'r blaned Mawrth erbyn hyn, ond buan newidiodd hynny wedi i Rwsia ymosod ar yr Wcráin. Yn y gobaith y daw cyfle eto mae'r ddau yn dal i baratoi, ac yn disgrifio beth sydd yn bosib gyda'r camera.
Mari Davies, myfyriwr PhD, sy’n gweithio ym maes bio-feddygaeth yn Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd. Mae hi'n edrych ar y darnau bach yn ein celloedd sydd yn ganolfan ail gylchu i bethau gwenwynig, ac yn canfod cyffuriau i helpu pan mae pethau yn mynd o'i le gyda'r broses glyfar hon.
Ac i orffen y rhaglen, nol â ni i'r Antarctig, lle mae Dr Huw Griffiths ar hyn o bryd, ar long wedi ei henwi ar ôl Syr David Attenborough. Mae’n gweithio i'r British Antarctic Survey fel biolegydd ac yn chwilio am fywyd ar waelod y môr nad oes neb wedi ei weld o'r blaen. Show less