Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,592 playable programmes from the BBC

Newid Hinsawdd a Fi

06/11/2022

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru

Mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i ardal Machynlleth i gyfarfod rhai o’r bobol yno sydd yn gwneud gwaith difyr ac anhygoel i wella’r amgylchedd. Mae’n ymweld â:

Canolfan y Dechnoleg Amgen, CAT, ac yn darganfod mwy am y gwaith sydd yn digwydd yna.

Y cerddor Liam Ricard sydd wedi astudio Pensaernïaeth a bellach yn astudio Gradd Meistr mewn Adeiladu Gwyrdd.

Sally Carr ac Alys Rees sydd yn sôn am y ganolfan ddechreuodd bron i hanner can mlynedd nol gan griw o wirfoddolwyr oedd yn awyddus i fyw bywyd heb ddibynnu ar danwydd ffosil.

Criw sydd ynghlwm a thyfu llysiau mewn darnau o dir sydd ynghanol Machynlleth, Tyfu Dyfi a Mach Maethlon. Gobaith Jane Powell yw cael mwy o bobol i dyfu bwyd eu hunain a dechrau garddio.

Siân Stacey o Tir Canol - eu bwriad ydi dod a phawb at ei gilydd a gwella natur yn y Canolbarth, er budd i fyd natur. Maen nhw’n siarad gyda channoedd o bobol – ac yn ceisio di-garboneiddio, hybu cydweithio ar draws tirfeddianwyr a chreu gwahaniaeth. Mae hi hefyd yn ymgyrchu i gael gwell darpariaeth feics yn y Canolbarth, a gwell cyswllt rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.

Andy Rowlands, Eco Dyfi, sydd yn sôn am brosiectau ynni yn yr ardal.

Geraint Evans, un o Gyfarwyddwyr Cwmni Dulas. Fe ddechreuodd y cwmni yn CAT ac mae bellach yn cyflogi 60 o bobol gan greu oergelloedd sydd yn rhedeg ar ynni’r haul ac yn cael eu hallforio ar draws y byd. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More