Pan symudodd Gwenfair Griffith i Sydney, Awstralia, sefydlodd Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Nghymru.
Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â theuluoedd sydd hefyd yn ceisio cadw traddodiadau a diwylliannau eu gwreiddiau nhw yn fyw yng Nghymru.
O’r heriau o deimlo’n wahanol, i’r dathliadau diwylliannol a’r teimlad o berthyn, mae Gwenfair yn holi os ydyn nhw nawr yn teimlo’n Gymry a Mwy? Show less