Iwan Griffiths a'i westeion yn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Ceredigion 2022, gan gynnwys y sgwrs gyntaf gyda'r prif enillwyr llenyddol a’r beirniaid; uchafbwyntiau cystadlu’r dydd; y newyddion o’r maes a thrafodaethau am gerdd dant, canu gwerin, llefaru a llawer mwy.
Y Fedal Ddrama yw prif gystadleuaeth lenyddol y dydd ac mae Iwan yn cael cwmni'r beirniaid Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams.
Rhiannon Lewis sy'n trafod uchafbwyntiau cerddorol y dydd, tra bod Nia Clwyd yng ngofal y canu gwerin a'r cerdd dant; Karen Owen sy'n dathlu cyfraniad merched i'r byd canu caeth; ac Elen Ifan syn' cadw golwg ar ddigwyddiadau yn y Babell Lên a Llwyfan y Llannerch. Show less