Iwan Griffiths a'i westeion yn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Ceredigion 2022, gan gynnwys y sgwrs gyntaf gyda'r prif enillwyr llenyddol a’r beirniaid; uchafbwyntiau cystadlu’r dydd; y newyddion o’r maes a thrafodaethau am gerdd dant, canu gwerin, llefaru a llawer mwy.
Cystadleuaeth Y Goron ydy prif seremoni lenyddol y dydd heddiw ac mae Iwan yn cael cwmni y tri beirniaid Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Williams.
Rhiannon Lewis sydd yn sylwebu ar uchafbwyntiau cerddorol y dydd, tra bod Nia Clwyd yng ngofal y canu gwerin a cherdd dant.
Ac yn trafod a oes digon o amrywiaeth yn ein llenyddiaeth mae Gareth Evans-Jones, Jane Aaron ac Elgan Rhys. Show less