Mari Lovgreen sydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau difyr a dibwrpas.
Yn ymuno â chapteiniaid yr wythnos, Welsh Whisperer a Melanie Owen, mae actores cyfres gomedi Rybish Betsan Ceiriog a Rhys Edwards o’r band Fleur de Lys. Ac mae Mari yn mynd i ymdrech fawr er mwyn creu argraff ar y cerddor poblogaidd. Show less