Mari Lovgreen sydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau difyr a dibwrpas.
Yn ymuno â chapteiniaid yr wythnos, Arwel ‘Pod’ Roberts a Melanie Owen, mae newyddiadurwr a bricsen gyson yn Wal Goch y tîm pêl droed cenedlaethol, Iolo Cheung, a phodledwraig sy’n hoff o gymharu merched Cymru i wrachod. Mari Elen Jones. Tybed a fydd ei gwybodaeth o ddeinosoriaid yr un mor ddychrynllyd. Show less