Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 289,281 playable programmes from the BBC

Cymry Newydd y Cyfnod Clo

Adfywio Iaith yr Aelwyd

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio Cymru 2Latest broadcast: on BBC Radio Cymru

Available for years

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

NEIL WYN JONES A’I FAM OLWEN ROOSE JONES
Mae Neil Wyn Jones yn saer coed o Gilgwri ac yn diwtor Cymraeg yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Cafodd ei fagu yn Wallasey ar Lannau Mersi ac mae ei fam, Olwen Roose Jones yn trafod ei fagwraeth a chysylltiad teuluol gyda Saunders Lewis. Mae’r ddau yn trafod eu hymdrech i adfywio’r Gymraeg ar yr aelwyd ers i Neil ail ddysgu iaith ei deulu.

JUDI DAVIES A’I MERCH BETHAN OWEN
Symudodd Judi Davies i Gymru i astudio i fod yn athrawes yng Ngholeg Caerllion. Priododd ei gŵr o Aberdâr a magu dau o blant. Cwympodd mewn cariad â’r Gymraeg a phenderfynodd ddysgu’r iaith ar ôl helpu ei merched yn eu harholiadau TGAU a lefel A yn Ysgol y Merched Aberdâr. Ar ôl ymddeol yn gynnar ymunodd â chwrs Cymraeg lleol a bellach mae’n rhugl ac yn sicrhau bod ei hwyres, Caru, yn un o siaradwyr newydd y Gymraeg a bod yr iaith yn parhau gyda’r genhedlaeth nesaf.

SIÂN HARKIN
Cafodd Siân Harkin ei magu ym mhentre’ Glynrhedynog yn y Rhondda ac er iddi fynd i’r capel Cymraeg, Saesneg oedd iaith yr aelwyd. “Pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n hollol ymwybodol bod cymuned Gymraeg yn bodoli yno ond do’n i ddim yn gallu ymuno mewn gyda nhw … Ac roedd fy mrawd a fi yn arfer siarad am oriau hir weithiau am y golled. A pan ges i fy mhlant i ro’n i’n teimlo’n gryf nad o’n i am gyfrannu at ddirywiad y Gymraeg drwy fagu plant di-Gymraeg fy hunan.” Cafodd ei phlant addysg yn ysgolion Cymraeg ardal Pontypridd ac ar ôl geni ei hŵyr cyntaf, penderfynodd ddysgu Cymraeg gan sicrhau bod cenhedlaeth nesaf ei theulu yn parhau i gadw’r iaith yn fyw. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More