Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 289,281 playable programmes from the BBC

Cymry Newydd y Cyfnod Clo

Dysgu Dan Glo

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for years

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

PHILIP MAC A’ GHOILL
Yn ystod y Cyfnod Clo cafodd Philip Mac a’ Ghoill ei benodi yn Swyddog Cynllunio’r iaith Wyddeleg yn Gaeltacht Donegal Iwerddon. Roedd newydd orffen ei ddoethuriaeth ym mhrifysgol Dulyn ac wedi dechrau dysgu Cymraeg ar ôl dod ar draws yr iaith gyntaf mewn cynhadledd i’r ieithoedd Celtaidd yng Nghaeredin yn 2019. Roedd wedi trefnu tocynnau a gwesty i ymweld â Chymru’r llynedd ond mae’n dal i ddisgwyl ei gyfle.

JEN BAILEY
Mae Jen Bailey yn arweinydd côr a cherddorfa sy’n dod o Awstralia yn wreiddiol ond wedi byw mewn amryw o wledydd cyn symud i ardal Utrecht yn yr Iseldiroedd gyda’i gŵr a’i merch. Yn ystod y Cyfnod Clo penderfynodd ychwanegu’r Gymraeg at yr wyth iaith y mae’n eu siarad yn rhugl.
Mae’r Gymraeg “wedi agor y byd” iddi, meddai, wrth iddi wneud ffrindiau newydd ar lein. “Mae byd dysgwyr Cymraeg yn fyd anhygoel a chyffrous iawn,” meddai.

NEIL PYPER
Gwyliau teuluol yn ardal Aberystwyth yn 2019 oedd y sbardun i Neil Pyper ddysgu Cymraeg. Bellach mae’r darlithydd economeg yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain yn rhugl yn yr iaith ac wrth ei fodd â’r diwylliant, llenyddiaeth a barddoniaeth. “Roedd yn syrpreis mawr i mi fod llawer o bobol yn Lloegr sy’n siarad Cymraeg a chymuned o siaradwyr Cymraeg dros Loegr.”
Drwy ddysgu’r iaith cafodd gyfle i ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg ar-lein, darllen nofelau Manon Steffan Ros a barddoniaeth Mererid Hopwood. “Mae yna ran o Gymru dw i wedi darganfod ers dechrau dysgu Cymraeg. Oni’n meddwl mod i’n nabod Cymru yn dda iawn ac roedd yn arbennig iawn i mi ddarganfod another side.” Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More