Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 281,454 playable programmes from the BBC

Cymry Newydd y Cyfnod Clo

Dysgwyr Dros y Byd

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for years

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

BEN OWEN-JONES
Cafodd Ben ei fagu yn Portsmouth a bu’n actio yn y ddrama Grange Hill pan oedd yn 11 oed. Wedi torri ei gefn mewn damwain, symudodd i Gymru yn 1996 i ddilyn cwrs coleg yng Nghasnewydd, lle mae e hefyd wedi bod yn ddarlithydd celf. Mae wedi dechrau dysgu Cymraeg ar-lein gan gadw dyddiadur sain o’i ymdrechion.

OLIVER LLEWELLYN
O Swydd Efrog yn wreiddiol mae Oliver newydd ddechrau dysgu disgyblion wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig. Ar ôl symud i Maryland yn yr Unol Daleithiau penderfynodd ddysgu Cymraeg gan fod ei dad-cu yn dod o Bort Talbot. Er nad oes llawer o gyfle i siarad Cymraeg yno, mae’n cyfrannu ar lein drwy gymdeithas Washington Welsh ac yn cynnal sesiynau sgwrsio Duolingo.

MOHINI GUPTA
Mae’r bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, yn gwneud gwaith ymchwil ym mhrifysgol Rhydychen ac ers Medi 2020 mae wedi ail gydio yn ei Chymraeg. Treuliodd dri mis yn Aberystwyth yn 2017 o dan nawdd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Sefydliad Mercator. Mae wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac yn gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol.

JAMIE DUFFIELD
Jamie Duffield yw prif fragwr cwmni Wild Weather Ales yn Reading. Gan fod y bragdy ar gau ar ddechrau’r Cyfnod Clo roedd yn rhaid iddo addasu’r gwaith o gynhyrchu casgenni i werthu cwrw mewn caniau a dyfeisio cwrw newydd. Roedd teithio am awr bob ffordd bob dydd yn y car yn gyfle iddo ddysgu Cymraeg. Mae’n teimlo ei fod yn ail-gysylltu â’i wreiddiau gan fod teulu ei dad yn dod o ogledd Cymru. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More