Mari Lovgreen sydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau difyr a dibwrpas.
Yn ymuno â chapteiniaid yr wythnos, Welsh Whisperer ac Arwel ‘Pod’ Roberts, mae dau arall sy’n ddigon ifanc i gael galw Mari yn “Chi”. Yr artist RnB Sage Todz a'r dramodydd Mared Llywelyn sydd yn brwydro am bwyntiau, ond pa mor wybodus fydd y ddau am fiwsig Sobin a’r Smaeliaid, U Thant, ac Angylion Stanli? Show less