Y bytholwyrdd Mari Lovgreen sydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau dibwrpas.
Y dyn gwyllt Dilwyn Sanderson-Jones a'r actor comedi Alun Parrington sydd yn ymuno â chapteiniaid yr wythnos – Catrin Mara a Melanie Owen.
Ond a fydd Alun yn cofio digon am farddoniaeth R Williams Parry ers ei ddyddiau ysgol? A rhif pa 'grysh' enwog fydd Dilwyn yn ei gynnig i Mel? Show less