Mari Lovgreen sydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau dibwrpas.
Yr actor Llŷr Evans a'r gantores ifanc Catty sydd yn ymuno â chapteiniaid yr wythnos – Welsh Whisperer a Catrin Mara.
Ond a fydd Llŷr yn gwybod mwy am gwrw nag y mae o am Snapchatio? Ac a fydd cyfnod o fyw yn Missouri o gymorth i Catty wrth ddyfalu enw afon hiraf Unol Daleithiau’r America? Show less