Terwyn Davies sy'n clywed stori Siôn Eilir Roberts o Landrillo ger Corwen sy'n gweithio fel arwerthwr yn Llanelwy.
Hefyd, hanes Olwen Ford o Lanfrothen sy'n credu'n gryf bod yn rhaid cadw'r bridiau cynhenid yn fyw.
Anna Pritchard o Fangor yn sôn sut y mae'n rhannu ei hamser rhwng ffermio ar ei thyddyn bach a rhedeg ei busnes tecstiliau, gyda nodau clustiau defaid yn chwarae rhan mawr yn ei gwaith.
Richard Davies yn crynhoi’r datblygiadau yn y diwydiant llaeth, a Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Gŵyl y Gwanwyn yn adolygu’r wasg amaethyddol. Show less