Gyda llai na 100 o ladd-dai bach ar ôl yn y Deyrnas Unedig, y cigydd Wil Lloyd Williams o Fachynlleth sy’n sôn am y cwmni teuluol, sydd wedi bod yn gweini cwsmeriaid ers y 1950au
Meinir Evans o ardal Llanbedr-Pont-Steffan yn sôn am ddechrau busnes coginio brownies o gegin y fferm yn ystod y pandemig.
Esyllt Jones o gwmni Dyfed Telecom yn sôn am geisio rhoi cymorth i ffermwyr a chymunedau gwledig drwy roi mynediad i fand eang cyflym iddyn nhw.
Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru yn crynhoi’r prisiau diweddaraf yn y martiau, ac Elin Havard o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsenni yn adolygu’r wasg. Show less