Shaun Jones, ŵyr y diweddar Oriel Jones ac Aled Hill yn wreddiol o'r Rhondda sy'n sôn am sefydlu cwmni byrgyrs newydd yng nghanol Caerdydd, gan ddefnyddio cig o fferm deuluol Shaun yn Llanybydder.
Yr hanesydd Gwyn Jenkins sy'n sôn am ei lyfr newydd 'A Welsh County At War' - hanes bywyd cymdeithasol ac amaethyddol Ceredigion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y milfeddyg Glesni Haf o Lanfihangel y Creuddyn yn sôn am ei diddordeb mewn gwneud pob math o grefftau poblogaidd.
Y newyddion a'r prisiau diweddaraf o'r diwydiant llaeth gyda Richard Davies, a'r naturiaethwr, Daniel Jenkins-Jones sy'n adolygu'r wasg. Show less