Y chwaraewr rygbi rhyngwladol Wyn Jones sy'n edrych nôl ar bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a thrafod bywyd nôl ar y fferm yn ystod y cyfnod ŵyna.
Huw Evans, yr arwerthwr o Gaerfyrddin, sy’n cofio dros ddeugain mlynedd o weithio fel ocsiwniar yn y gorllewin.
Emyr Evans yn sôn am ei waith fel Rheolwr Prosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth.
John Richards o Hybu Cig Cymru yn crynhoi holl ddatblygiadau’r marchnadoedd anifeiliaid, a sgwrs gydag enillwyr y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Rithiol CFFI Cymru eleni. Show less