Stori'r tripledi Dylan, Dyfan a Dwylan Price o Langadog, Sir Gâr sydd wedi troi'n 30 oed yn ddiweddar, ac sydd wedi aros yn eu milltir sgwâr.
Hefyd, yr actor Steffan Harri yn sôn am ddychwelyd i gefn gwlad Sir Drefaldwyn i fyw, a rhannu profiadau ŵyna gyda’r teulu.
Iolo Ellis, un o arwerthwyr mart Bryncir, yn sôn am ddiwrnod arferol yn ei fywyd.
Richard Davies yn crynhoi’r newyddion diweddara o’r sector laeth, a'r Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor yn adolygu straeon amaethyddol yr wythnos. Show less