Mae'r môr yn ffin i Gymru ar dair ochr. Lle chwarae yw e i nifer ohonom ni erbyn hyn ond ers canrifoedd mae'r môr wedi caniatau i ni deithio, i fasnachu, i frwydro, ac i ni fwydo ein hunain. Mae rhai yn dal i gael bywoliaeth o'r môr tra bod eraill yn hiraethu am gael bod ar y tonnau yn amlach ac eraill yn sicrhau bod hanes ein perthynas â'r môr yn cael ei gadw.
Jon Gower sy'n sgwrsio gyda'r hanesydd Dr David Jenkins, Dilwyn Morgan, y bardd Gwyneth Lewis, yr hanesydd lleol Meinir Pierce Jones a'r pysgotwr Sion Williams i olrhain hanes masnach llongau Cymru, pysgota dros y canrifoedd a'r diwydiant codi llongau. Show less