Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 279,757 playable programmes from the BBC

Ar Lan y Môr

Rhaglen 1

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio Cymru 2Latest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

O Borth Wen Fach i Ben Dal Aderyn, heibio Porth Lydan a Chefn Sidan; o wichiaid a wystrys i datŵs, Cerrig Defaid a boliau llaith.
Cyfoeth o enwau a geiriau sy'n codi o'r môr ac yn atgof sydyn o'n hen berthynas ni â'r môr grymus sydd o'n cwmpas ni.

Mae'r môr yn ffin i Gymru ar dair ochr. Lle chwarae i nifer ohonom ni erbyn hyn ond ers canrifoedd mae'r môr wedi caniatau i ni deithio, i fasnachu, i frwydro, ac i ni fwydo ein hunain ac mae olion hynny i'w gweld ar hyd yr arfordir ond hefyd mewn caneuon, mynwentydd, dogfennau hanesyddol, enwau cartrefi, a chof ardaloedd.

Jon Gower sy'n sgwrsio gyda haneswyr, ecolegwyr a physgotwyr er mwyn casglu enwau arfordirol a morwrol Cymru. Wrth sgwrsio gydag Elinor Gwynn, Elin Tomos, Sion Williams, Gareth Bonello, Dilwyn Morgan a Meinir Pierce Jones mae Jon yn clywed yr hanesion hyfryd sydd wrth wraidd yr enwau. Rhai enwau yn fyw ac yn iach, eraill yn prysur ddiflannu ac eraill yn cael eu tynnu i'r lan o ddyfnderoedd hen ddogfennau a mapiau. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More