Ailddarllediad o 2011, pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Wrecsam a'r Cyffiniau.
Ymhlith y pytiau:
Dathlu 30 mlynedd o'r Talwrn o'r Babell Len;
Mattie Pritchard yn hel atgofion gyda Hywel Gwynfryn am anturiaethau Eisteddfodol Caradog Pritchard, yn enwedig yn Eisteddfod Llanelli!;
Glenys a Rhisiart yn canu cerdd dant unigryw iawn;
T. Llew Jones yn cofio’r 'steddfodau bach;
Y gadair goll a chyfrinach Cadair Glyn Ebwy 1958;
Lottie Ogwen Thomas o’r Ffôr, Pwllheli, hefyd yn cofio eisteddfodau bach, a hel meddyliau am sut mae pethau wedi newid bellach;
Mererid Hopwood yn sôn wrth Beti George am roi cusan i archdderwydd;
Straeon am garafanio gan Jennifer Clarke;
Ac i goroni, neu i , cyfraniadau gan John Roberts William, Dr. John Davies a John Gwilym Jones. Show less